Saunders Lewis
Lavernock

Gwaun y môr, cân ehedydd
yn esgyn drwy libart y gwynt,
ninnau’n sefyll i wrando
fel y gwrandawem gynt.

Be’ sy’n aros, pa gyfoeth,
wedi helbulon ein hynt?
Gwaun y môr, cân ehedydd
yn disgyn o libart y gwynt.

Saunders Lewis
Lavernock

Moor and sea, skylark’s song
ascending through the wind’s demesnes,
we too standing listening
as we’d listened formerly.

What wealth remains, then, after
the journey’s adversities?
Moor and sea, skylark’s song
descending from the wind’s demesnes.

Transl. by Harry Gilonis

(c)